Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Mai 2022
Amser:
13.30 -
15.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12830
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Tystion: |
Dr Nerys Llewelyn Jones, Cyngor Cyfraith Cymru Emyr Lewis, Ysgol y Gyfraith Caerdydd
Yr Arglwydd Lloyd-Jones, Cyngor Cyfraith Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Sesiwn dystiolaeth gyda Chyngor Cyfraith Cymru - materion yn ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Cyfraith Cymru.
Egwyl
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)197 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(6)199 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
4.1 SL(6)190 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
5.1 SL(6)175 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022
Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5.2 SL(6)178 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diogelu Eiddo mewn Anheddau y Cefnwyd Arnynt) (Cymru) 2022
Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5.3 SL(6)177 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2022
Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
6.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Esemptiadau Trawsgydymffurfio a Rheoliad Trosiannol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
6.3 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
6.4 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Cyflyrau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif 2) 2022
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a'r ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
6.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Chweched Protocol i'r Confensiwn ar Adeiladu a Gweithredu Adweithydd Fflwcs Niwtron Uchel Iawn (y DU-Ffrainc-yr Almaen)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.
7.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Canllawiau Llywodraeth Cymru ar 'Datrysiadau deddfwriaethol cyffredin: canllaw i ymgodymu â materion polisi cylchol mewn deddfwriaeth'
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
7.3 Gohebiaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip: Y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.
7.4 Datganiad ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi: Y wybodaeth ddiweddaraf am fesurau rheoli ffiniau
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi.
7.5 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diweddariad ar dreialu trefniadau pleidleisio hyblyg
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Sesiwn dystiolaeth gyda Chyngor Cyfraith Cymru - Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda Chyngor Cyfraith Cymru.
10 Adroddiad Monitro
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro.
11 Cyfraith yr UE a ddargedwir
Nododd y Pwyllgor y papurau gan yr Athro Jo Hunt a'r Athro Catherine Barnard.
12 Blaenraglen Waith
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.